Gwasanaethau
Mae’r Strategaeth Arloesedd yn cefnogi prosiectau ymchwil a datblygu ar draws y sector cyhoeddus a phreifat yng Nghymru i alluogi creu cynhyrchion a gwasanaethau arloesol. Rydym yn gweithio ar draws sectorau blaenoriaeth allweddol gan gynnwys Iechyd a Gwyddorau Bywyd, Bwyd a Diod, Technolegau sy’n Dod i’r Amlwg a Galluogi, Systemau Seilwaith a Gweithgynhyrchu.
Rydym yn gweithio’n agos gyda sefydliadau fel Llywodraeth Cymru, Innovate UK a rhaglenni fel Horizon2020 gan gysylltu heriau’r sector cyhoeddus â syniadau arloesol gan ddiwydiant. Rydym yn gweithio ar draws mentrau fel y Fenter Ymchwil Busnesau Bach, heriau GovTech a rhaglenni eraill o fewn Cronfa Her y Strategaeth Ddiwydiannol i annog twf cwmnïau wrth ddatrys heriau’r sector cyhoeddus.
Rydym yn cefnogi sefydliadau cyhoeddus a phreifat i ddatblygu prosiectau, ffurfio partneriaethau a rheoli a monitro prosiectau ar eu rhan. Rydym hefyd yn nodi cyfleoedd ariannu addas, yn datblygu strategaethau ac yn datblygu cynigion i gefnogi ymchwil ac arloesi ac ysgogi twf.