top of page

Cyflymu twf mewn busnesau bwyd a diod trwy ddatblygu bwydydd arloesol a swyddogaethol

 

Nod adferiad SMART yw cefnogi busnesau i ddatblygu bwydydd arloesol a swyddogaethol i hyrwyddo adferiad o effeithiau'r pandemig ac ysgogi twf trwy greu cyfleoedd newydd a wireddwyd o ganlyniad i'r pandemig. Mae angen dybryd nawr, ac yn y tymor hir, i helpu Cymru i reoli clefydau anhrosglwyddadwy, cyflyrau cronig a gwella adferiad o gyflyrau llidiol systemig hirdymor (e.e., cyn-diabetes a chovid hir). Un o brif ffactorau'r strategaeth hon fydd diet, gyda phwyslais yn symud i ddiet iachach er mwyn cynyddu buddion iechyd bwydydd, ochr yn ochr â maeth sylfaenol. Felly mae bwlch yn y farchnad ar gyfer ‘Bwydydd Swyddogaethol’ arbenigol, gwerth uchel, sy’n honni bod ganddynt fanteision iechyd.  

 

Ynghyd â chynrychiolwyr o ddiwydiant bwyd a diod Cymru, rydym yn datblygu fframwaith i helpu i ddatblygu a manteisio ar fwyd a diod sy'n gwella iechyd. Trwy’r fframwaith ymchwil a datblygu, byddwn yn cefnogi datblygiad ‘Bwydydd Swyddogaethol’ gan ddefnyddio bioactifau, botaneg ac atchwanegiadau sy’n digwydd yn naturiol, yn enwedig mireinio cynhwysion, prosesau a ryseitiau traddodiadol cynaliadwy. Bydd gwaith dadansoddol uwch a threialon clinigol dynol yn profi ac yn dilysu'r bwydydd hyn a allai gyfrannu at iechyd unigolion, ochr yn ochr â threialon canfyddiad defnyddwyr i helpu i gynyddu atyniad gweledol a blasusrwydd.

 

Bydd y fframwaith yn cyfrannu at agor marchnadoedd arbenigol i farchnadoedd mwy prif ffrwd ac yn annog twf yn niwydiant Bwyd a Diod Cymru. Os ydych yn datblygu bwyd neu ddiod arloesol a swyddogaethol ac os hoffech gael cymorth cysylltwch â ni yn info@innovationstrategy.co.uk.

Ariennir y prosiect hwn gan Is-adran Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru. 

INZ__FullGradient.png

If you’re a business with an innovative net zero or circular economy solution we can help turn that concept into a reality!

bottom of page